Manylion y Cwrs
Amlinelliad o’r Cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)
Bydd holl gyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yn cynnwys y sesiynau canlynol dros gyfnod o 12 awr:
Sesiwn 1
- Pam cymorth cyntaf iechyd meddwl?
- Polisi iechyd meddwl yng Nghymru
- Problemau iechyd meddwl cyffredin
- Ymgyrch gwrth stigma Agweddau a Gwelwch Fi
- Pum cam cymorth cyntaf iechyd meddwl
- Beth yw iselder?
- Symptomau iselder
- Alcohol, cyffuriau ac iselder
Sesiwn 2
- Hunanladdiad yng Nghymru
- Cymorth cyntaf mewn argyfwng ar gyfer ymddygiad hunanladdol
- Cymorth cyntaf mewn argyfwng ar gyfer iselder
- Triniaeth ac adnoddau ar gyfer iselder
Sesiwn 3
- Beth yw anhwylderau gorbryder (Anhwylder Straen Wedi Trawma, Anhwylder Gorbryder Cyffredinol, ffobia cymdeithasol, anhwylder panig, agoraffobia, anhwylder obsesiynol cymhellol OCD)?
- Symptomau anhwylderau gorbryder
- Alcohol, cyffuriau ac anhwylderau gorbryder
- Cymorth cyntaf mewn argyfwng ar gyfer pyliau panig
- Cymorth cyntaf mewn argyfwng ar gyfer ymateb llym i straen
- Triniaeth ac adnoddau ar gyfer anhwylderau gorbryder
Sesiwn 4
- Beth yw anhwylderau seicotig (sgitsoffrenia, anhwylder deubegwn)?
- Symptomau anhwylderau seicotig
- Ffactorau risg seicosis
- Triniaeth ac adnoddau ar gyfer seicosis
- Deddfwriaeth Iechyd Meddwl yng Nghymru
- Ffyrdd eraill o fynegi trallod yn cynnwys hunan niwed
- Cynllunio gweithredu ar gyfer defnyddio Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)

