Sut i ymgeisio
Recriwtio Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a holiadur. Mae’n hanfodol eich bod yn ateb pob rhan o’r ffurflenni hyn. Ceisiwch gadw eich atebion yn bendant a phenodol. Rydym yn chwilio am dystiolaeth eich bod yn addas i gael eich hyfforddi yn Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru). Peidiwch ag anfon CV os gwelwch yn dda am na chaiff ei ystyried fel rhan o’ch cais.
Llenwi eich ffurflen gais
Mae angen i bobl sy’n ymgeisio i fod yn Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) fel rhan o’u cylch gwaith proffesiynol ac sy’n derbyn cefnogaeth ariannol gan eu sefydliad gynnwys llythyr o gefnogaeth gan eu rheolwr llinell gyda’u cais.
Dylai’r llythyr gynnwys cadarnhad bod y person yn derbyn cefnogaeth i fod yn rhan o gwrs Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) a bod y rheolwr llinell yn deall a chymeradwyo’r ymrwymiad sydd ei angen er mwyn cyflawni hyn, o ran arian ac amser. Pan fo sefydliad yn talu i rywun fynychu fel Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yna bydd Mind Cymru’n disgwyl i berchnogaeth o Offer Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) aros gyda’r sefydliad yn hytrach na’r unigolyn.
Os ydych yn ymgeisio fel hyfforddwr annibynnol/ hunangyflogedig, a wnewch chi gynnwys enwau a chyfeiriadau dau ganolwr y gallwn gysylltu â nhw os fydd eich cais yn llwyddiannus. Dylai’r canolwyr allu cynnig sylwadau ar eich gallu/profiad/sgil i fod yn Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru).
Os cewch eich dewis byddwch yn derbyn llythyr yn clustnodi lle i chi ar gwrs penodol. Mewn rhai achosion, byddwn yn eich ffonio i drafod eich cais yn fwy manwl. Os na fyddwch yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn llythyr i’ch hysbysu o hynny.
Os hoffech egluro unrhyw beth cyn cyflwyno eich cais, cysylltwch â Kim Pugh yn Mind Cymru ar k.pugh@mind.org.uk ac fe wnaiff ei orau i’ch helpu.
Dychwelwch y ffurflen gais a’r holiadur, wedi eu cwblhau, ynghyd â llythyr o gefnogaeth neu fanylion canolwyr at:
Kim Pugh
Rheolwr Prosiect Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Mind Cymru
3ydd Llawr
T_ Quebec
Castlebridge
Cowbridge Road East
Caerdydd
CF11 9AB

