Mind Cymru - MHFA
 

Dod yn Hyfforddwr


Gwybodaeth i bobl yn ymgeisio i fod yn Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)

 

Cyflwyniad

 

Diolch yn fawr i chi am ddangos diddordeb mewn derbyn hyfforddiant i fod yn Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru). Gobeithio y bydd yr wybodaeth isod yn eich helpu i ddeall beth fydd yn ddisgwyliedig gan Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru). Darllenwch yr wybodaeth yn ofalus os gwelwch yn dda. 

 

Cefndir

 

Un o brif amcanion polisi iechyd meddwl yng Nghymru yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o iechyd ac afiechyd meddwl a hybu iechyd meddwl a lles cadarnhaol. Ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru mae Mind Cymru’n cyflwyno menter hyfforddi Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yng Nghymru. Rydym eisiau recriwtio pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd ar draws Cymru i hyfforddi i fod yn Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru).

 

Prif nod hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd meddwl a hybu gwellhad y rhai hynny sy’n profi afiechyd meddyliol. Amcanion yr hyfforddiant yw:

  • cynnal bywyd pan fo person mewn perygl o wneud niwed iddyn nhw eu hunain neu eraill
  • darparu help i atal problem iechyd meddwl rhag datblygu’n gyflwr mwy difrifol
  • hybu gwellhad iechyd meddwl da
  • darparu cysur i berson sy’n profi trallod meddyliol.

 

Mae’r cwrs 12 awr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yn edrych ar anghenion oedolion sydd wedi datblygu neu mewn perygl o ddatblygu trallod meddyliol.
 

Recriwtio Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)

 

Mae Mind Cymru’n anelu at hyfforddi 75 o bobl i fod yn Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) erbyn diwedd Mawrth 2009. Mae Mind Cymru wedi ei gytundebu i gydlynu’r recriwtio a’r dewis. Er mwyn cael eich dewis mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen gais a’i dychwelyd at:

 

Kim Pugh
Rheolwr Prosiect Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Mind Cymru
3ydd Llawr
T_ Quebec
Castlebridge
Cowbridge Road East
Caerdydd
CF11 9AB

 

Os hoffech eglurhad yngl_n ag unrhyw beth cyn cyflwyno eich cais, cysylltwch â Kim Pugh yn Mind Cymru ar k.pugh@mind.org.uk neu ffoniwch: 02920 346 581 ac fe wnaiff ei orau i’ch helpu.
Meini prawf ar gyfer dewis

 

Mae’r meini prawf canlynol yn hanfodol ar gyfer cael eich dewis i gymryd rhan yn rhaglen hyfforddi Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) ac ar gyfer derbyn cymeradwyaeth i ddarparu cyrsiau:  

  • profiadau proffesiynol a/neu bersonol ym maes iechyd meddwl, yn cynnwys cymwysterau perthnasol
  • profiad o ddarparu hyfforddiant/dysgu’n effeithiol
  • profiad o rwydweithio effeithiol
  • gwybodaeth am amrywiaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru
  • sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da
  • gwybodaeth dda am broblemau iechyd meddwl
  • agweddau cadarnhaol tuag at bobl gyda phroblemau iechyd meddwl
  • brwdfrydedd i leihau stigma sy’n gysylltiedig gydag afiechyd meddwl

 

Ffioedd

 

Codir ffi ar gyfer hyfforddi person yn Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru).  Mae’r ffioedd yn cynnwys costau’r holl sesiynau hyfforddi a lluniaeth, Llawlyfr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) a defnyddiau cyfeirio, ynghyd ag aelodaeth o Rwydwaith Cenedlaethol Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) fydd yn darparu cefnogaeth a diweddariadau parhaus.

 

Mae’r ffioedd ar gyfer hyfforddi i fod yn Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) fel a ganlyn:  

  • Sector statudol a hyfforddwyr hunangyflogedig/annibynnol £1000
  • Sector gwirfoddol (gyda chylch gwaith cenedlaethol neu incwm blynyddol o dros £1 miliwn) £650
  • Sector gwirfoddol (refeniw yn llai na £1 miliwn y flwyddyn.) £450

 

Codir ffi, ar bris cost, am Lawlyfr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) sy’n cael ei ddarparu i bawb sy’n mynychu cyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru). Bydd gofyn i hyfforddwyr neu’r sefydliadau sy’n eu noddi i brynu’r llawlyfrau hyn gan Mind Cymru er mwyn darparu’r cwrs ar ôl iddynt gwblhau eu hyfforddiant a chael eu cymeradwyol.

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cyfrannu’n sylweddol tuag at y ffioedd a’r costau hyn ac maent yn debyg iawn i’r rhai a godir gan y rhaglen Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn Awstralia.

 

Yr hyn a ddisgwylir gan Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)

 

Os cewch eich dewis fe fydd disgwyl i chi fynychu’r hyfforddiant llawn ar gyfer Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru).  Mae hyn yn cynnwys:

  • 2 diwrnod ar gyfer cwrs 12 awr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)
  • 3 diwrnod ar gyfer Diwrnodiau Datblygu
  • 2 ddiwrnod ar gyfer Diwrnodiau Asesu

 

Dros y 3 mis nesaf ceir dau gyfle i gymryd rhan mewn hyfforddiant Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru). Mae’r dyddiadau a’r lleoliadau wedi eu pennu ar gyfer darparu’r sesiwn hyfforddi cyntaf. Ble’n bosib, bydd pobl yn cael lle yn ôl profiad, sgiliau, cyd-destun proffesiynol a lleoliad daearyddol. Efallai y bydd angen llety ar rai er mwyn gallu mynychu’r sesiynau hyn, a bydd yn rhaid i gyfranogwyr wneud eu trefniadau teithio eu hunain a thalu amdanynt.

 

Er mwyn gallu darparu cyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) bydd yn rhaid i bob hyfforddwr gymryd rhan ym mhob agwedd o’r hyfforddiant, a chael eu hasesu a’u cymeradwyo gan y Tîm Hyfforddi Cenedlaethol.

 

Disgwylir y bydd pob Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yn cynnal o leiaf 3 chwrs yn ystod y 12 mis ar ôl cael eu cymeradwyo. Er mwyn aros ar y rhestr o Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) cymeradwy bydd angen i bob hyfforddwr gymryd rhan yn y Rhwydwaith Cenedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys o leiaf un cyfarfod cenedlaethol y flwyddyn.

 

Caiff Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) ei fonitro a’i werthuso’n annibynnol; bydd angen i hyfforddwyr gefnogi’r rhain trwy ddarparu manylion cyswllt cywir ar gyfer yr holl gyfranogwyr ar eu cyrsiau, dychwelyd ffurflenni wedi eu cwblhau a darparu gwybodaeth berthnasol yn ôl y gofyn.  

 

Trefniadaeth a Thaliadau ar gyfer Cyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)

 

Disgwylir i Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) fod yn gyfrifol am drefnu’r cyrsiau eu hunain, neu gyda chefnogaeth y sefydliad sy’n eu noddi. Mae hyn yn cynnwys archebu a thalu am Lawlyfrau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) a gwneud cais am Dystysgrifau i gyfranogwyr yn ogystal â’r trefniadau ymarferol ar gyfer cynnal y cwrs, e.e. lleoliad, lluniaeth, offer ayb.

 

Ni chaiff Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) eu cyflogi gan Mind Cymru i ddarparu’r cyrsiau. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw rhai sectorau neu grwpiau o bobl yr hoffem iddynt fynychu cyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yn gallu darparu’r hyfforddiant.  Bydd Mind Cymru yn chwilio am Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) er mwyn eu cytundebu i ddarparu’r cyrsiau hyn a byddant yn derbyn taliad ar sail unigol.

 

Disgwylir y bydd nifer o sefydliadau yn codi ffi ar bobl i fynychu cyrsiau MHFA (Cymru) ac y bydd y ffi hon yn cynnwys cost y Llawlyfr, Tystysgrif, canran o gost llogi’r lleoliad a lluniaeth ac amser yr Hyfforddwr yn paratoi a darparu’r cwrs.

 

Cefnogaeth gyda Threfniadaeth

 

Mae angen i bobl sy’n ymgeisio i dderbyn hyfforddiant fel Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) fel rhan o’u cylch gwaith proffesiynol ac sy’n derbyn cefnogaeth ariannol gan eu sefydliad gynnwys llythyr o gefnogaeth gan eu rheolwr llinell (cyfeirir at gopi drafft) gyda’u cais. Dylai’r llythyr gynnwys cadarnhad bod y person yn derbyn cefnogaeth i fod yn rhan o gwrs Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) a bod y rheolwr llinell yn deall a chymeradwyo’r ymrwymiad sydd ei angen er mwyn cyflawni hyn, o ran arian ac amser.  Pan fo sefydliad yn talu i rywun fynychu fel Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yna byddai Mind Cymru’n disgwyl bod perchnogaeth o Offer Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) aros gyda’r sefydliad yn hytrach na’r unigolyn.

 

Grwpiau Targed

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Mind Cymru’n awyddus bod cyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) ar gael i amrywiaeth eang o grwpiau ac unigolion ar draws Cymru. Anelir y rhaglen at wella dealltwriaeth y cyhoedd o iechyd meddwl. Rydym yn gobeithio y bydd rhai grwpiau allweddol o bobl yn mynychu cwrs, yn cynnwys pobl sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Ambiwlans, Yr Heddlu a Gwasanaeth Carchar yng Nghymru, Canolfan Byd Gwaith, Gofal Iechyd Sylfaenol a Gofal Cymdeithasol, staff mewn Addysg Bellach ac Uwch, Gweithwyr Cefnogi mewn amryw o leoliadau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, a mannau gwaith eraill.

 

Bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer bod yn Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) ac yn ôl pa grwpiau targed y maent yn bwriadu darparu cyrsiau ar eu cyfer.

 

Dyddiadau ar gyfer cyrsiau hyfforddi Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) 2009

Lleoliad:


Hilton Hotel Casnewydd

Cwrs 12 awr
Cymorth Cyntaf
Iechyd Meddwl
(Cymru)

20feda 21fed Ebrill 2009

Diwrnodau
Datblygu

6, 7 ac 8fed Mai 2009

Diwrnodau
Asesu

18fed& 19fed Mai 2008

 

Ychwanegir cyrsiau hyfforddi ar ôl iddynt gael eu cadarnhau. 

 

Ar ôl cael eich dewis i gymryd rhan yn hyfforddiant Hyfforddwyr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) byddwch yn cael lle yn un o’r lleoliadau daearyddol hyn.  Rhaid i chi fynychu’r tri rhan:  Cwrs 12 awr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru), 3 Diwrnod Datblygu a 2 Ddiwrnod Asesu.

 

Os ydych yn ennill lle byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau llawn.