Mind Cymru - MHFA
 

Cyflwyniad


Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)

 

Pam hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru)

 

Mae nifer o resymau pam y byddai pobl eisiau hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru):

 

Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin, yn arbennig iselder, gorbryder a chamddefnydd alcohol a chyffuriau eraill. Bydd un person mewn pedwar yn profi rhyw fath o broblem gyda’u hiechyd meddwl mewn blwyddyn.

 

Mae stigma’n gysylltiedig gyda phroblemau iechyd meddwl. Gall hyn rwystro pobl rhag ceisio cael help.  Yn aml mae gan bobl gywilydd trafod problemau iechyd meddwl gyda theulu, ffrindiau a chyd weithwyr. Fe allant hefyd fod yn amharod i chwilio am help a chymorth ar gyfer y fath broblemau oherwydd eu bod yn poeni beth fydd eraill yn ei feddwl ohonynt.

 

Mae nifer o bobl sydd heb eu haddysgu yngl_n ag iechyd meddwl. Mae deall sut i adnabod problemau iechyd meddwl a pha driniaethau effeithiol sydd ar gael yn rhywbeth prin. Gyda mwy o ymwybyddiaeth gymunedol, bydd pobl yn gallu adnabod eu problemau eu hunain ac eraill ac yn teimlo’n fwy cyfforddus yn chwilio am help.

 

Nid yw help bob amser ar gael. Gall meddyg teulu, cwnsler, seicolegydd a seiciatryddion helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl, Fodd bynnag, yn yr un modd a gyda damweiniau ac argyfyngau meddygol, nid yw’r fath help bob amser ar gael pan mae’r broblem yn codi i ddechrau. Dyma pryd y gall aelodau’r cyhoedd gynnig help yn syth a chefnogi’r person i gael yr help priodol.

 

fallai nad yw pobl yn sylweddoli bod angen help arnynt neu fod help ar gael. Mae rhai problemau iechyd meddwl yn amharu ar feddwl yn eglur a gwneud penderfyniadau’n dda. Efallai nad yw person sy’n profi’r fath broblemau yn sylweddoli bod angen help arnynt neu fod help effeithiol ar gael iddynt, neu fe allant fod mewn cymaint o drallod ac yn methu meddwl yn eglur yngl_n â beth y dylent ei wneud.

 

Yn aml nid yw aelodau’r cyhoedd yn gwybod sut i ymateb. Mewn sefyllfa o argyfwng iechyd meddwl, fe all gweithredoedd yr un sy’n helpu pennu pa mor gyflym y gall y person gyda’r broblem gael help a/neu wella. Gyda Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru), maent yn dysgu dull i’w helpu i fod yn dawel a hyderus ac i ymateb mewn modd addas fydd yn rhoi’r help gorau.

 

Beth yw ei bwrpas?

 

Cwrs hyfforddi 12 awr sy’n gwella dealltwriaeth o iechyd meddwl ac yn helpu pobl i adnabod arwyddion a symptomau rhywun gyda phroblemau iechyd meddwl; i ymateb i amryw o argyfyngau iechyd meddwl, ymrwymo gyda phobl, eu cefnogi a’u cyfeirio at help proffesiynol addas.

 

Ar gyfer pwy?

 

Anelir y rhaglen at godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ymysg y cyhoedd.  Ymysg rhai grwpiau allweddol mae pobl sy’n gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans, heddlu a gwasanaethau carchar Cymru, Canolfan Byd Gwaith, gofal iechyd cychwynnol a gofal cymdeithasol, staff yn gweithio ym myd addysg  bellach ac uwch, gweithiwr cefnogi mewn amryw o leoliadau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, a mannau gwaith eraill.

 

Beth yw’r gost?

 

Hyd at £150 y person y cwrs, yn dibynnu ar bwy sy’n ei gynnal ac ymhle.

 

Hyd

 

Pedair sesiwn 3 awr y gellir eu rhedeg dros ddwy i bedair wythnos, neu ddau ddydd yn olynol.

 

Lleoliad

 

Ar draws Cymru

 

Hyfforddiant ar waith!

 

Darganfyddwch pam fod Carol Evans, sy’n gweithio gyda Gwasanaeth Allgymorth Gwledig VOC Mind, yn credu bod hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yn hanfodol i bawb. http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7371788.stm

 

Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yn achub bywydau ac yn gwella bywydau. Mae’r cwrs hyfforddi’n seiliedig ar waith a ddechreuwyd yn Awstralia ac, yn dilyn peilot calonogol yn yr Alban yn 2004, mae’r cwrs wedi ei addasu ar gyfer Cymru ac mae bellach yn cael ei gyflwyno ar draws y wlad.
 

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol cysylltwch gyda’ch Cydlynydd Rhanbarthol Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl lleol ar y ffon neu trwy gyfrwng e-bost


Gogledd Cymru:
Gwynfryn Evans
Ffôn: 07500 776376
g.evans@mind.org.uk

 

Canolbarth Cymru:
Joyce Borgs
Ffôn: 07855 749866
j.borgs@mind.org.uk

 

De Cymru:
Marina Ballinger 
Ffôn: 02920 346588
m.ballinger@mind.org.uk

 

Rheolwr Prosiect:
Kim Pugh
Ffôn: 02920 346581
k.pugh@mind.org.uk